Crwydro Llŷn ac Eifionydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:09, 30 Tachwedd 2020 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Crwydro Llŷn ac Eifionydd gan Gruffudd Parry yn un o gyfrolau mwyaf safonol y gyfres gyfoethog o lyfrau ar Grwydro Cymru a gyhoeddwyd dros gyfnod o oddeutu ugain mlynedd o flynyddoedd cynnar y 1950au i ddechrau'r 1970au. Cyhoeddwyd argraffiad cyntaf y gyfrol hon ym 1960 gan Lyfrau'r Dryw, Llandybie, Sir Gaerfyrddin. Mae gloywder a llithrigrwydd Cymraeg Gruffudd Parry, a'i ddawn lenyddol ddiamheuol, yn amlwg drwyddi draw. Mae'r awdur yn llwyddo'n arbennig o ddeheuig i gyfleu naws a chymeriad yr ardaloedd y mae'n ymdrin â hwy a cheir yn y gyfrol gyfoeth o straeon difyr, hanes y broydd a dyfyniadau priodol o weithiau eu beirdd a'u llenorion. Yr hyn sy'n taro rhywun yn arbennig, wrth ddarllen y gyfrol nawr, drigain mlynedd ers ei chyhoeddi, yw cymaint o newidiadau er gwaeth sydd wedi digwydd yn yr ardaloedd hyn ers hynny, gyda'r trai enbyd ar y diwylliant brodorol a'r iaith Gymraeg. Er bod y gyfrol yn naturiol yn ymdrin ag ardal y tu allan i ffiniau Uwchgwyrfai i raddau helaeth, eto mae'r awdur yn cyffwrdd ag ardal Clynnog Fawr, Capel Uchaf a Bwlchderwin yn y bennod agoriadol, sef "Y Ffordd i Lŷn", ac yn y bedwaredd bennod, "Pentrefi'r Eifl", mae'n ymdrin â phentrefi Trefor, Llanaelhaearn, Llithfaen a Nant Gwrtheyrn, a'u safle ffiniol fel petae (ac yn enwedig Trefor) rhwng Arfon, Llŷn ac Eifionydd.

Brodor o Garmel oedd Gruffudd Parry, ac yn frawd iau i'r ysgolhaig, Syr Thomas Parry, a ddaeth yn brifathro Coleg y Brifysgol Aberystwyth. Er yn hanu o Uwchgwyrfai, yng nghantref Llŷn y treuliodd Gruffudd Parry y rhan fwyaf o'i oes, a bu'n athro Saesneg yn Ysgol Ramadeg Botwnnog am y rhan fwyaf o'i oes waith. Ef oedd awdur Adroddiadau'r Co Bach, y cyfraniadau hynod ddigri hynny a fu'n fodd i ddiddori a diddanu miloedd o wrandawyr radio yn ystod oes aur darlledu yn y Gymraeg. Yn 2020 cyhoeddodd gyfrol hunangofiannol, Cofio'n ôl, sef cyfrol 21 yn Cyfres y Cewri a gyhoeddwyd gan Wasg Gwynedd.