Crwydro Llŷn ac Eifionydd
Mae Crwydro Llŷn ac Eifionydd gan Gruffudd Parry yn un o gyfrolau mwyaf safonol y gyfres gyfoethog o lyfrau ar Grwydro Cymru a gyhoeddwyd dros gyfnod o oddeutu ugain mlynedd o flynyddoedd cynnar y 1950au i ddechrau'r 1970au. Cyhoeddwyd argraffiad cyntaf y gyfrol hon ym 1960 gan Lyfrau'r Dryw, Llandybie, Sir Gaerfyrddin. Mae gloywder a llithrigrwydd Cymraeg Gruffudd Parry, a'i ddawn lenyddol ddiamheuol, yn amlwg drwy'r gyfrol gyfan.