Gorsaf reilffordd Pen-y-groes

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:57, 29 Tachwedd 2020 gan Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Gorsaf Pen-y-groes oedd y brif orsaf a'r unig gyffordd ar y rheilffordd rhwng Caernarfon ac Afon-wen, bron i ddwy filltir i'r de o orsaf Y Groeslon a thair milltir a hanner cyn cyrraedd gorsaf Pant-glas. Fe'i hagorwyd ym 1867, a'i chau ym 1964. Roedd platfform ochr ar gyfer trenau Cangen reilffordd Nantlle a redai am ryw filltir go dda i'r dwyrain er mwyn cludo teithwyr i Dal-y-sarn a chludo llechi oddi yno.[1]

Ni fu'r lein trwy'r orsaf yn brysur iawn, gyda fawr may na hanner dwsin o drenau'r dydd i bod cyfeiriad ar y lein rhwng Caernarfon ac Afon-wen, a hanner dwsin yn ôl ac ymlaen ar hyd Cangen Nantlle. Cyhoeddwyd amserau'r trenau yn gyson yn y papurau lleol. Dyma'r manylion o'r Dinesydd Cymreig ym 1919:

PENYGROES I GAERNARFON.— 7 41 a.m.; 10 29 a.m.; 11 36 a.m.; 1 29 p.m.; 4 36 p.m.; 7 35 p.m.; 9 58 p.m. PENYGROES I NANTLLE.—9 20 a.m.; 10 a.m.; 10 35 a.m.; 11 40 a.m.; 2 10 p.m.; 4 40 p.m.; 5 25 p.m. NANTLLE I BENYGROES.—7 30 a.m.; 9 35 a.m.; 10 15 a.m.; 11  20 a.m.; 1 15 p.m.; 4 20 p.m.; 5 10 p.m.; 5 40 p.m.

Galwodd drenau o Gaernarfon ar eu ffordd i Afon-wen ym Mhen-y-groes tua chwarter awr wedi gadael Caernarfon, eto yn ôl y Dinesydd am 1919:

CAERNARFON I AFONWEN.— 5 11 a.m; 9 24 a.m.; 1 28 p.m.; 4 0 p.m.; 5 27 p.m.; 7 24 p.m.[2]

Bu peth newid i'r patrwm dros y blynyddoedd, ond yn debyg oedd y gwasanaeth. Gwelwyd nifer helaeth o drenau cyflym ar ddyddiau Sadwrn yn yr haf wedi'r ail ryfel byd a hyd at gau'r lein, yn cludo pobl i wersyll Butlin's ger Chwilog - ond ni arhosai'r rhain yng ngorsaf Pen-y-groes.

Roedd yma hefyd iard nwyddau sylweddol ar gyfer traffig nwyddau'r dyffryn.

Erys fawr ddim o olion amlwg y rheilffordd a'r orsaf erbyn heddiw oherwydd i ffordd osgoi Pen-y-groes gael ei chodi ar hyd llwybr yr hen lein. Roedd yr orsaf yn sefyll i'r de o'r bont droed newydd (a godwyd ar safle hen bont Ffordd Clynnog dros y rheilffordd).

Cyfeiriadau

.

  1. W.G.Rear, LMS Branches in North Wales.., Cyf.I (Wild Swan, 1986), t.81
  2. Y Dinesydd Cymreig, 26.11.1919, t.3