John Jones, Bryn'rodyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:18, 26 Tachwedd 2020 gan Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Y Parch. John Jones (Sion Frynrodyn}

Roedd y Parch. John Jones (1af Ionawr, 1814 - Tachwedd 16, 1900) yn ddyn oedd yng nghalon ei gymuned. Cyfrannodd nid yn unig fel gweinidog Capel Bryn'rodyn (MC) am ymron hanner canrif ond hefyd fel masnachwr pwysig ym mhentref Y Groeslon ac fel bardd medrus ysgrifennodd llawer o benillion i’w gyfeillion a’i gydnabod yn y gymdogaeth a thu hwnt.[1]

Fe'i ganwyd yn Nhai’r-Lôn yng nghymdogaeth Capel Uchaf ger Clynnog Fawr. Ei rieni oedd John a Marged Roberts ac roedd yn un o un-ar-ddeg o blant. Gwehydd oedd ei dad ac yn ystod ei llencyndod gweithiodd John Jones yn ffatri wlân ei dad. Yn ddisgybl hŷn, mynychodd Ysgol Clynnog lle oedd Eben Fardd yn athro ac yno dangosodd arwyddion o’r ddawn i farddoni ac i siarad yn gyhoeddus. Priododd pan yn gymharol ifanc ag Ellen Owen, Cil-y-coed, Clynnog.

O dan ddylanwad un o ddiwygiadau crefyddol y cyfnod - a phregethwr a ddaeth yn gyfaill iddo, John Jones, Tal-y-sarn - dechreuodd bregethu yn ei ugeiniau cynnar. Pan ddaeth yn bregethwr rheolaidd credwyd y byddai'n dod yn un o enwogion y pulpud Cymreig, cafodd ei alw'n ‘ail John Elias’ a oedd yn gyfyrder iddo ar ochr ei fam. Datblygodd yn bregethwyr poblogaidd ac fe’i gwahoddwyd ar gylch pregethu teithiol gyda John Jones, Tal-y-sarn o gwmpas Cymru yn 1847.

Hyfforddodd ar gyfer y weinidogaeth yn Athrofa’r Bala rhwng 1844 a 1846 a bu’n byw yn Rhyd-ddu am gyfnod yn cynnal ffatri wlân a siop yno cyn symud yn 1851 i’r Groeslon.Yno cymerodd drosodd ofalaeth Capel Brynrodyn a chael ei dderbyn yn llawn i’r weinidogaeth ym 1856. Erbyn ei farwolaeth yn 1900 ef oedd y gweinidog ordeiniedig hynaf yn Sir Gaernarfon.

Roedd yn ddawnus nid yn unig fel pregethwr ond hefyd wrth ei waith gyda phlant y fro - bosib gan nad oedd ganddo ac Ellen eu plant eu hunain – gyda’i gofiant yn nodi ‘roedd fel tad ymhlith pobl ifanc y gymdogaeth, gan ei fod mor annwyl ac mor addfwyn’. Fel llawer o weinidogion y cyfnod nid oedd yn derbyn tal am ei waith ac felly roedd yn cadw siop [2], llythyrdy ac iard lo.

John Jones ei hun oedd yn gofalu am yr iard lo a’i wraig Ellen yn gofalu am y siop a’r llythyrdy. Yn wir yn sgil eu dyletswyddau fel postfeistres bu farw Ellen yn Nhachwedd 1886, o ganlyniad i ddamwain angheuol y cyfarfu â hi yng Ngorsaf Reilffordd Groeslon wrth fynd a’r post i’r trên [3] Roedd hyn yn golled fawr i’r gymdogaeth ar y pryd ac yn ergyd drom iawn i John Jones.

Cymaint oedd gwerthfawrogiad aelodau Capel Brynrodyn o waith eu gweinidog a’i wraig comisiynwyd portreadau olew unigol ohonynt yn 1877 gan y Parch.Evan Williams.[4] Yn ddiweddar nodwyd y lluniau hyn fel esiamplau da o waith darlunwyr portreadau'r cyfnod.[5]

Ymhlith ei ffrindiau barddol roedd yn cael ei adnabod fel "Sion Frynrodyn". Fe’i disgrifiwyd mewn ysgrif goffa [6] gan Anthropos (R.D.Rowland) fel “Bardd y cerdyn cof” gan iddo gyfansoddi nifer mawr o englynion ar ôl cyfeillion a chydnabod. Mae’n nodi yn arbennig hefyd ei gymeriad hawddgar “Byw yn yr heulwen oedd ef ac yng ngholau'r heulwen carai edrych ar bawb arall”. Pa well cofeb i ddyn hynod.


Cyfeiriadau

  1. Cofiant John Jones, Brynrodyn gan y Parchedig John Jones (Pwllheli, cyhoeddwyd ar gais ‘eglwys a chynulleidfa Brynrodyn’. Argraffwyd yng Nghaernarfon (W.Gwenlyn Evans),1903).
  2. Cofiant John Jones, Bryn'rodyn, t.27: “Siop y Groeslon … un gymysg ac amrwyiol, yn cyfuno pob math o nwyddau at use gwlad, mewn te a siwgwr, blawd a bara, dillad a chlogsiau, llestri pren a llestri pridd, snisyn a tobacco, hoelion a sgriws, cyffyriau meddygol dynion ac anifeilaid…”.
  3. Marwolaeth a Claddedigaeth Mrs Jones, Priod y Parch John Jones Bryn'rodyn... Y Goleuad, Caernarfon, 4 Rhagfyr 1886.t.10
  4. Gweler Y Bywgraffiadur ar-lein[1]
  5. Peter Lord,Looking Out: Welsh painting, social class and international context (Parthian Books 2020).
  6. Marwolaeth yr Hybarch John Jones, Bryn'rodyn, Y Genedl Gymreig, Caernarfon, 20 Tachwedd 1900.t.5