George Twisleton (iau)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:42, 25 Tachwedd 2020 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd George Twistleton (iau) yn fab ac etifedd i George Twistleton (1618-67), swyddog ym myddin y Senedd yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr, a Mari Glynn, merch William Glynn, Lleuar Fawr yn ardal Brynaerau. (Gweler yr erthygl ar George Twistleton (y tad) yn Cof y Cwmwd.)

Ganed George Twistleton (iau) ym 1652 a bu farw ym 1714. Priododd ef i mewn i un o hen deuluoedd bonheddig Llŷn, sef â Margaret, a oedd yn ferch i William Gruffydd, plas Cefn Amwlch, Tudweiliog - teulu a oedd wedi ymsefydlu yno ers rhai cenedlaethau. (Ganol y ddeunawfed ganrif daeth gwraig Cefn Amlwch, sef Sydney Gruffydd, a oedd wedi priodi â William Gruffydd arall o'r plasdy hwnnw, i gryn amlygrwydd pan ddechreuodd ganlyn y diwygiwr Methodistaidd Howel Harris o gwmpas y wlad a dod yn rhan o'r 'teulu' yr oedd wedi ei sefydlu yn ei gartref yn Nhrefeca Fach. Ond stori arall ydi honno, ac mae'n mynd â ni tu hwnt i ffiniau cwmwd Uwchgwyrfai.) Bu George Twistleton yn ustus heddwch yn Sir Gaernarfon ac yn siryf dros y sir ym 1882-83. Bu farw ar Ŵyl San Steffan, 26 Rhagfyr 1714. Dilynwyd ef yn Lleuar Fawr gan ei fab, George Twistleton arall (y trydydd). Aeth hwnnw dipyn pellach na Llŷn i chwilio am wraig gan briodi â Saesnes o Lundain, Barbara Jackson. Bu ef farw'n ddyn cymharol ifanc ar 22 Rhagfyr 1732. Gyda'i farwolaeth, aeth y stad i ddwylo ei ferch, Mary, a briododd â milwr, sef y Capten William Ridsdale o Ripon yn Swydd Efrog - sef yr un sir ag yr hanai ei hen daid hithau, y George Twistleton cyntaf, ohoni. Wedi gwerthu'r stad i Syr Thomas Wynn, Glynllifon, lladdwyd y capten ym mrwydr Dettingen ym 1743 (un o frwydrau mawr Rhyfel yr Olyniaeth Awstriaidd ar gyfandir Ewrop), a daeth llinach Glyniaid y Lleuar i ben. [1]

Cyfeiriadau

Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940, (Llundain, 1953), t.930. (Cyfraniad gan un o haneswyr amlycaf cwmwd Uwchgwyrfai, Gilbert Williams, Rhostryfan.)