Bodellog (trefgordd)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:32, 3 Rhagfyr 2017 gan Miriamlloydjones (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cyfeirir at Bodellog fel trefgordd a phentrefan, a leolir yn ardal Dinas, Llanwnda.

Mae cyfeiriad cynnar iawn o’r lle hwn yn yr ‘Record of Caernarvon’ o 1470 fel ‘Botelok’. Yr oedd y tref hwn yn cynnwys y tir rhwng Afon Gochoer ac Afon Faig, yn ôl Eben Fardd. Yr oedd Bodychain, Caer Du a Nantcall oll o fewn cyffiniau’r tref hwn, yn ogystal a Melin Bryn y Gro – a wasanaethodd fel eu melin.

Dadleuai W. G. Williams fod camddealltwriaeth ynglŷn a’r datganiad uchod, gan fod ‘Bodellog’ yn hen enw ar ‘Plas y Bont’ hefyd, ac fod melin Bontnewydd yn cael eu chymysgu a Melin Bryn y Gro.

Roedd hefyd achos o gwmpas yr unfed ganrif ar bymtheg, pan ddaru William Glyn y Siarsiant geisio meddiannu’r lle hwn, a chafodd wrthwynebiad ffyrnig oddi wrth William ap Madog o’r Pengwern, Llanwnda.

Ffynonellau

Carr, Glenda Hen Enwau o Arfon, Llyn ac Eifionydd (Gwasg y Bwthyn, 2011)

Williams, W. Gilbert Bodellog Cymru, 1915 (Cyf. 48)