Neuadd Rhosgadfan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:04, 21 Tachwedd 2020 gan Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Neuadd Rhosgadfan yn adeilad pren sylweddol a a safai ar ochr y lôn heibio i'r ysgol. Fe adeiladwyd tua 1930 gan weithwyr lleol a roddoidd eu llafur am ddim. Fe'i hagorwyd gyda chryn rhwysg gan frenin Lloegr, Siôr V. Yn anffodus, fe'i llosgwyd yn llwyr yn 2004, gan golli llyfrgell fach a lluniau hanesyddol o'r agoriad a digwyddiadau eraill. Ar y pryd, bu cryn amheuaeth mai achos o arson oedd y tu ôl i'r digwyddiad. Roedd wedi cau o ran defnydd ers 2002.[1]

Yn ystafell fach tu ôl i'r llwyfan y cyfarfu pwyllgor y gyfres deledu C,mom Midffîld yn ogystal a llawer o bwyllgiorau go iawn a Chyngor Cymuned Llanwnda.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Cymru Fyw, [1]
  2. Gwybodaeth bersonol