Bodgarad

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:25, 3 Rhagfyr 2017 gan Miriamlloydjones (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ffermdy hynafol ym mhlwyf Llanwnda yw Bodgarad.

Mae’n dyddio o’r 1620au o leiaf, ac mae’n adeilad rhestredig. Ymddangosai ar fap degwm o 1839, a chredir iddo fod ag olwyn dwr ar un adeg. Mae’n ymddangos hefyd ar gofnodion treth tir 1802 a 1803 fel ‘Bod Angharad’, ac fel ‘Bodgared’ ar yr ‘run cofnodion ar gyfer y 1770au. Mae fferm o’r enw Llwyn Angharad ger Bodaden hefyd, ond nid hawdd yw profi pwy oedd yr Angharad a enwir yma, a paham fod ei henw ar y llefydd rhain.

Ffynhonnell

Carr, Glenda Hen Enwau o Arfon, Llyn ac Eifionydd (Gwasg y Bwthyn, 2011)