Afon Drws-y-coed

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:25, 18 Tachwedd 2020 gan Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Afon Drws-y-coed yw'r enw a roddir fel arfer ar yr afon sy'n llifo i mewn i Lyn Nantlle Uchaf, er, mewn gwirionedd, rhan uchaf Afon Llyfnwy ydyw. Mae ei tharddiad yng nghorsydd Bwlch-y-moch uwchben Drws-y-coed a Rhyd-ddu.

Defnyddid dŵr yr afon i droi peiriannau'r gwaith metel yn Nrws-y-coed, ac i olchi'r mwynau a ddaeth o'r mwynfeydd. oherwydd hyn trowyd dŵr yn afon yn gochaidd, ac enw'r ardalwyr arni felly oedd Afon Gopr.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Thomas Alun Williams, "Afonydd Nantlle", Baladeulyn Ddoe a Heddiw, cyhoeddwyd yn ddigidol yn unig ar wefan Nantlle.com [1]