Michael Pritchard

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:47, 17 Tachwedd 2020 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Bardd genedigol o Lanllyfni oedd Michael Pritchard (c.1709-1733), ond treuliodd y rhan fwyaf o'i oes fer yn Sir Fôn.

Ganed Michael Pritchard oddeutu 1709 yn fab i Richard William Pritchard, gwehydd wrth ei alwedigaeth a hefyd glochydd eglwys Sant Rhedyw yn Llanllyfni. Gadawodd Michael fro ei febyd yn llanc ifanc gan fynd i Fôn lle bu'n gweithio fel garddwr i'r dyddiadurwr enwog, William Bulkeley o'r Brynddu, Llanfechell. Ni wyddys pwy wnaeth ei hyfforddi yn y grefft farddol ond daeth yn fardd medrus yn y mesurau caeth ac, er ei farw cynnar, mae nifer o'i gerddi wedi goroesi, megis "Cywydd i'r Wyddfa" a "Cywydd Marwnad Owen Gruffydd o Lanystumdwy (1643-1730)" - roedd Owen Gruffydd yn un o'r rhai olaf i gyfansoddi cywyddau moliant i foneddigion y fro yn yr hen ddull, gan glera o blas i blas. Testun arall tra gwahanol y canodd Michael Pritchard iddo oedd "Englynion i'r Dderwen y dihangodd Charles II iddi am ei hoedl rhag y Rowndiaid" - tybed mai ef oedd yr unig fardd o Gymro i ganu i'r goeden chwedlonol honno yn hanes Lloegr a'i brenhiniaeth?

Mae'n sicr i Michael Pritchard farw'n ifanc iawn er bod sawl dyddiad o'i dranc wedi'u cynnig. Fodd bynnag, yn ei farwnad iddo, dywed Hugh Hughes (Y Bardd Coch) iddo farw ym 1733 yn 24 oed, yn Llanfechell, ac iddo gael ei gladdu ym mynwent y plwyf hwnnw ar y trydydd o Orffennaf.

Cyfeiriadau

Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940(Llundain 1953), t.751.