Pont y Gelynnen

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:22, 15 Tachwedd 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Saif Pont y Gelynnen ar yr B4410, sef yr hen ffordd dyrpeg, ger y Gelli rhwng Nantlle a Drws-y-coed. Mae'r bont yn sefyll hanner ffordd rhwng Ysgol Gynradd Baladeulyn a fferm Gelli-ffrydiau. Pont weddol ddi-nôd yw, dros nant sy'n rhedeg i mewn i Llyn Nantlle Uchaf, sef Afon Pontygelynnen[1]. Weithiau, ceir y ffurf Pont Gelenau ar enw'r bont, ond mae enw'r afon - a'r cyfeiriad isod - yn dangos beth yw enw cywir y bont.

Bwa syml wedi ei wneud o gerrig yw’r bont, tua 12 troedfedd o led a phen y bwa 9 troedfedd uwchben dŵr yr afon. Fe adeiladwyd yn newydd ym 1855, ar ôl i swyddog y sir, Owen Jones, ysgrifennu at yr Arglwydd Newborough, Cadeirydd y Llys Chwarter, i ddweud fod y brif angen yn y sir am waith ar bontydd newydd oedd ger Gelli-ffrydiau, nid nepell o bentref Nantlle, yn cynnwys '"Pont y Gelynan".[2] Yr oedd rhaid i’r contractwr ddarparu ffordd dros dro tra oedd y gwaith yn mynd rhagddo. Fe adeiladwyd gan William Thomas, adeiladydd o Ffordd Ysgubor Degwm yng Nghaernarfon. Cost y gwaith oedd £52.10s.

Mewn dogfennau cyn cyfnod y mapiau Ordnans, fe elwir y bont yn Bont Gelynan. Nid yw'n glir pa enw yw'r un cywir erbyn hyn. [3]


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Map Ordnans; Thomas Alun Williams, Afonydd Nantlle ar wefan Nantlle.com [1]
  2. Archifdy Gwynedd, XD2/24855.
  3. Archifdy Caernarfon, XPlansB/28