Llyn Bwlch-y-moch

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:49, 12 Tachwedd 2020 gan Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cronfa ddŵr oedd Llyn Bwlch-y-moch a grewyd ychydig i'r gogledd o Lyn y Dywarchen, ar ben Bwlch-y-moch ac yr ochr arall i fynydd Clogwyn y Garreg. Pwrpas y gronfa ddŵr oedd sicrhau digon o ddŵr cyson ar gyfer Gwaith Copr Simdde'r Dylluan, a bu'n darddiad Afon Llyfnwy wedi i Lyn y Dywarchen hefyd gael ei addasu'n gronfa ddŵr, a'r dŵr yn yr achos hwnnw gael ei ddargyfeirio i ddyffryn Afon Gwyrfai at ddibenion y chwareli yno. Pan aeth y dam yn fregus yn y 1950au, penderfynodd y perchnogion, Ystad y Faenol, agor y dam rhag iddo roi a chreu llifogydd yn Nhrws-y-coed. Serch hynny, mae olion y dam a physt clymu cychod pysgodwyr yn dal i'w gweld yn yr hyn sydd ar ôl, sef darn o gorsdir.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Geraint Thomas, Cyfrinachau Llynnoedd Eryri (Tal-y-bont, 2011), t.50