Mynwent Macpela
Mynwent Macpela yw mynwent gyhoeddus Pen-y-groes, ac fe'i chynhelir gan Gyngor Cymuned Llanllyfni. Saif ar ochr ogleddol i'r ffordd sydd yn codi o Ben-y-groes i gyfeiriad Carmel. Mae'n debyg iddi gael ei hagor ym 1879, ac erbyn 1964 roedd 3885 o bobl wedi'u claddu yno.[1]
Nid yw'r rheswm dros alw'r fynwent yn Facpela'n amlwg erbyn hyn, gan nad oes capel o'r enw hwnnw yn y cylch. Fodd bynnag, prynwyd ogof o enw Machpelah gan Abraham yn ôl llyfr Genesis, er mwyn sicrhau claddfa ar gyfer ei wraig Sarah.
Ymysg y rhai mwyaf nodedig i gael eu claddu yno yw Gwenlyn Parry, a gladdwyd yno ym 1991. Dyn o Ddeiniolen ydoedd, a ddysgodd ym Methesda cyn symud i Gaerdydd. Yno, priododd ei ail wraig, Ann Beynon, merch y Cynghorydd Talfryn Jones, Pen-y-groes.
Mor ddiweddar â 2018-19, gwariodd y cyngor cymuned £81600 i wella'r fynwent a'r llwybrau ynddi.[2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma