Comin Uwchgwyrfai

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:44, 14 Hydref 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Comin Uwchgwyrfai yw'r tir agored yn rhan uchaf plwyfi Llandwrog a Llanwnda. nas caewyd o'r mynydd adeg cau'r tiroedd comin oherwydd gwrthwynebiad i gynlluniau'r Arglwydd Newborough a arweinwyd gan Griffith Davies, yr actiwari yn Llundain a hanodd o'r ardal. Mae llawer wedi cael ei brydlesu gan y Goron dros y blynyddoedd ar gyfer chwareli llechi, ond erys erwau eang o dir mynydd a gweundir. Mae nifer o ffermwyr yr ardal yn dal i arddel eu hawlio pori ar y comin.

Mae'r comin fel y mae heddiw'n cynnwys llethrau Moel Tryfan, llethrau gorlleinol Mynydd Mawr a Mynydd Cilgwyn i gyd.