Pandy Hen
Mae Pandy Hen yn sefyll ar lan ogleddol Afon Crychddwr yn ardal Nebo. Bellach, mae'n enw ar dŷ ond mae'r enw'n tystio i fodolaeth gwaith pannu brethyn yno yn y gorffennol - er bod y gwaith wedi cau, mae'n debyg, cyn i arolwg cyntaf manwl yr Arolwg Ordnans yn yr ardal gymryd lle, a hynny tua 1888. Safai nid nepell o Frithdir Isaf a Llwydcoed Fawr ym mhlwyf Llanllyfni. Pandy oedd melin a ddefnyddid i orffen defnyddiau gwlân ar ôl iddynt gael eu nyddu. Mae map Ordnans 1888 yn dangos olion ffrwd felin ger y pandy hwn.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma