Tom Huws
Roedd Y Prifardd Tom Huws (1906-19??) yn frodor o'r Groeslon.
Wedi gwasanaeth milwrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, aeth i Landrindod i hyfforddi fel athro dan gynllun i hyfforddi'r athrawon ychwanegol oedd eu hangen wedi'r rhyfel. Bu'n athro mewn sawl ysgol, yn cynnwys ysgol gynradd yng Nghaerdydd, gan symud i Ysgol Glan Clwyd (Y Rhyl, a Llanelwy wedyn) fel athro Cymraeg cyn ymddeol yn 65 oed ym 1971.[1] Sawl flwyddyn wedi iddo ymddeol, cyfansoddodd yr englyn canlynol ar gyfer llyfr lloffion a gynhyrchwyd gan Glan Clwyd:
Hiraeth hen athro am Ysgol Glan Clwyd
- Ystafell hwylus a helaeth – a ennyn
- a chynnal ddysgeidiaeth,
- A lle'r addoli ddaeth
- Digon i'r holl gymdogaeth."[2]
- Ystafell hwylus a helaeth – a ennyn
Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, 1959 am bryddest ar y testun Cadwynau lle ymdrinodd â dirywiad y gymdeithas a'r cyni wedi i'r chwarel leol yn Nyffryn Nantlle gau:
Rhynllyd gefnau ar y waliau boliog, Stelcian, stilio a sgwrs, Sgwrsio am waith. Nid oes gwaith, wrth gwrs!
Torri eu henwau ddydd Llun, a dydd Gwener, Loetran o gwmpas Tŷ'r Crydd a'r Lôn Newydd, A gwybod na ddychwel fyth hen lawenydd.[3]
Ymysg ei gerddi, mae soned a gyfansoddodd ar gyfer canmlwyddiant Capel Brynrhos (MC), Y Groeslon, Capel Brynrhos (1880-1980).[4]
Yn genedlaetholwr pybyr, bu'n llafar yn erbyn ymweliad teulu brenhinol Lloegr i'r Eisteddfod y flwyddyn ar ôl iddo gael ei goroni.
Am fideo o Tom Huws yn cael ei goroni, cliciwch yma: [[ [1]]].
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma