John Roberts, Hafod-y-Wern, Clynnog
Uchelwr o Hafod-y-Wern, Clynnog Fawr oedd John Roberts (? - tua 1700). Priododd Margaret, ail ferch Henry Williams o Dyddewi, Uchelwr, ar y cyntaf o Ionawr 1697. Ganwyd mab iddynt, Henry Roberts yn 1699. Ond bu farw John Roberts yn Bengal, India tua diwedd y flwyddyn 1700.[1] 1700 oedd dechrau’r cyfnod pan oedd Prydain yn lledu ei gorwelion yn enw Cwmni Dwyrain India.
Priododd ei weddw â David Pardoe, Ficer Corawl Tyddewi, ar Dachwedd 23ain 1704.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma