Sioe Pontlyfni
Cynhelid Sioe Pontlyfni, sioe amaethyddol ardderchog, ar gaeau Llyn y Gele yn y 1980au a’r 1990au, dan ddylanwad Huw Geraint Williams, y milfeddyg: achlysur poblogaidd a derbyniol iawn a’r Gymraeg oedd yn cael y lle blaenllaw am unwaith. Byddai yno gystadlaethau cynnyrch gardd a choginio ac uchel seinydd yn cyhoeddi gwahanol gystadlaethau ym myd y ceffylau, defaid cŵn ac adar.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma