Llyn y Gele
Fferm ger y brif ffordd o Gaernarfon i Bwllheli ydy Llyn y Gele, Pontlyfni. Llyn Gela ar lafar. Y perchennog presennol ydy William Vaughan-Jones ac roedd ei dad o'i flaen yn ffarmio'r tir. Nid yw Llyn y Gele yn fferm weithredol erbyn hyn. Ar hyn o bryd, mae maes carafanau ar dir y fferm a’r busnes hwn yn nwylo’r ddwy ferch sef Caryl a Sioned a’u teuluoedd.
Yn ôl Syr Ifor Williams, mae tri ystyr posib i'r enw:
- a] Llyn y Gelod. Defnyddid gelod i sugno gwaed amhur a manylir ar y feddyginiaeth boblogaidd hon yn Meddyginiaethau Gwerin Cymru gan Anne Elizabeth Williams, Y Lolfa, 2017.
- b] Llyn y Gelain sef 'celain' 'meirw' a hyn yn cysylltu â'r Mabinogi
- c] Gele yw afon gul fel blaen saeth gw. Abergele
Mab Bryn Gwydion, Pontllyfni, Owen Jones ddaeth i fyw i Lyn y Gele tua chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Chwaer Owen Jones, Mary oedd mam gwraig David Lloyd George, Margaret. Priododd Mary a symud i Fynydd Ednyfed. Dywedwyd wrthyf am ddigwyddiad diddorol am Margaret. Doedd y teulu ddim yn hapus iawn pan ddechreuodd Margaret a Lloyd George gyfeillachu ac un haf, fe'i hanfonwyd i Lyn y Gele am gyfnod gan obeithio y byddai'n anghofio am Lloyd George. Daeth Lloyd George i chwilio amdani ac ar ben grisiau llofft yr ŷd, fe ddyweddiodd y ddau yn y fan a'r lle.
Yn wreiddiol, roedd Llyn y Gele y perthyn i stad Llwyn y Brain, Llanrug [Plas Seiont bellach]. Hen daid Willam Vaughan Jones oedd Robert o Dyddyn Mawr. Taid Wil oedd William a chafodd bedwar o blant, John [Joni], Mary, Jennie a Laura. Bu Laura farw tua 1918 o'r Ffliw Mawr. Daeth William i Lyn y Gele tua 1920. Priododd Jennie â John Pritchard Jones a byw yn Bodryn, Llandwrog cyn dod i fyw i Lyn y Gele ar ôl marw Joni tua 1960. Mab Jennie a John Pritchard Jones ydy William Vaughan Jones, y perchennog presennol.
Dylid nodi enwau caeau Llyn y Gele: Bryn y Beddau, Cae Pen Deg ar Hugain, Bryn Cyrff. Heb fod nepell mae Maen Dylan.
BRYN BEDDAU Enwir [Bryn] Gwdion, Bryn Arien (Brynaerau), Bedd [Maen] Dylan ac ati ym Mhedwaredd Gainc y Mabinogi. Credai Syr Ifor Williams nad yr hyn a elwir y Brynaerau presennol rhyw dri chwarter milltir o Bontlyfni, sydd â chapel, plas a ffarm o’r enw hwnnw, oedd union leoliad Bryn Arien y Mabinogi ond yn hytrach y Bryn Beddau hwn ar dir Llyn Gela: “Ar y traeth, gyferbyn â Bryn Aerau, ymgyfyd penrhyn go uchel, a elwir bellach Bryn Beddau. Cynigiaf mai hwn yw’r hen Fryn Arien. Rhed i’r môr ym Mhwynt Maen Dylan.... [1]
Ar Ebrill 1af 1830 ceir hanes James Forbes, 22 oed, yn rhedeg ar draws y caeau ac yn taflu ei hun dros y clogwyn ym Mryn Beddau. Roedd llafurwyr yn gweithio mewn cae cyfagos, rhedasant yno a bu farw yn fuan wedyn. Roedd y gwymp tua 25 llath. Pan archwiliwyd y corff canfuwyd llythyr yn ei boced yn hysbysu ei fod yn rhoi pen am ei fywyd. Roedd yn fab i Charles Forbes o Ynys Jamaica ac roedd ei frawd, Neil, yn aros yn Ystumllyn ar y pryd ac oddi yno yr aeth i’r fan hon i farw. Fe’i claddwyd yn Ynys Cynhaearn. [2]
CLOC HAUL O Lyn y Gele y daeth y cloc haul hynod sydd ym mynwent Eglwys Beuno Sant, Clynnog, y tybir ei fod yn dyddio o’r wythfed neu’r nawfed ganrif. “Mae yna bistyll yng ngardd Llyn Gela a’r dŵr yn rhedeg iddo o Lleuar Bach ac roedd yna do bach dros y pistyll,” meddai W. Vaughan-Jones. “Be’ oedd o ond hen, hen gloc haul, a phan ddeallodd Frederick Wynne, Glynllifon, beth oedd o, mi ofynnodd i ‘Nhaid a gâi ei godi a’i roi i Eglwys Clynnog. Dyna a fu ac mi gododd Glynllifon gwt dros y pistyll.” Tua chanrif ynghynt roedd y cloc wedi cael ei ddefnyddio fel pont i groesi ffrwd Melin Glan-Môr, Aberdesach.[3]
SIOE PONTLYFNI Cynhelid sioe amaethyddol ardderchog ar gaeau Llyn y Gele yn y 1980au a’r 1990au, dan ddylanwad Huw Geraint Williams, y milfeddyg: achlysur poblogaidd a derbyniol iawn a’r Gymraeg oedd yn cael y lle blaenllaw am unwaith. Byddai yno gystadlaethau cynnyrch gardd a choginio ac uchel seinydd yn cyhoeddi gwahanol gystadlaethau ym myd y ceffylau, defaid cŵn ac adar.
- ↑ Pedeir Keinc y Mabinogi gan Syr Ifor Williams, tt. 278-79, ail argraffiad, Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru (1951).
- ↑ t. 133 Y Gestiana gan Alltud Eifion (Robert Isaac Jones), Tremadog. Argraffwyd yn 1892. Adargraffwyd i ddathlu Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bro Dwyfor, 1975, a gyhoeddwyd gan Wasg Tŷ ar y Graig ac a argraffwyd gan Wasg Gee, Dinbych.
- ↑ A Corpus of Early Medieval Inscribed Stones and Stone Sculpture in Wales, Cyfrol III North Wales gan Nancy Edwards, Gwasg Prifysgol Cymru (2013) tt. 264-266.