Pennarth (trefgordd)
Trefgordd a hen faenor gyn-hanesyddol oedd Pennarth (neu Penardd) yn ardal Clynnog Fawr.
Mae llawer o gyfeiriadau at y lle hwn mewn hen ysgrifau Cymreig, megis Englynion y Beddau oddi mewn i Llyfr Du Caerfyrddin. Credir i bendefig o'r enw Maeldaf Hen fyw yno o gwmpas y chweched ganrif, a bod cymeriadau eraill o'i gyfnod ef wedi eu claddu yno. Yr oedd afon yn rhedeg drwy'r safle yma hefyd, a rhedodd o ucheldir Clynnog, a gelwir hon ar un adeg yn Afon Rhydybeirion yn ôl rhai.[1]
Fel yn achos nifer o drefgorddi'r Canol Oesoedd, mae'r enw wedi parhau fel enw un o brif ffermydd yr ardal hyd heddiw.
Disgrifiad o'r drefgordd yn y Record of Caernarvon
Rhestrwyd y gwelyau, tenantiaid a'r rhenti neu'r nwyddau a gwasanaethau y disgwylid iddynt gyflwyno i'r Tywysog neu arglwydd y cwmwd mewn dogfen a luniwyd ym 1352 ac a elwir bellach yn Record of Carnarvon. Mae copi o fersiwn brintiedig y ddogfen hon i'w chael yn Archifdy Caernarfon. Erbyn 1352, Brenin Lloegr (neu ei fab hynaf, Tywysog Cymru) oedd yn derbyn y rhenti a'r rhoddion hyn, ond roedd y ddaliadaeth o dir yn dal i gydymffurfio a'r hen drefn o "wely" a rannwyd rhwng perthnasau.
Nodir yn y Cofnod dan sylw fod saith gwely yn Ninlle tua 1352: Gwely Wyrion Eignon; Gwely Wyrion Mourgene; Gwely Wyrion Randle; Gwely Wyrion Ostroth [neu Ystrwyth, mae'n debyg]; Gwely Wisgiaid; Gwely Hebbogothion; a Gwely Bowyred. Yr oedd yno hefyd bum melin: Melin Gafelog; Melin Meredydd; Melyn Edenyfed; Melin Heilyn; a Melin Madog.[2]
Cyfieithiad
Cyfeiriadau
W.R. Ambrose, Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle (Penygroes, 1872).