Rhos-isaf
Mae Rhos-isaf yn bentref ym mhlwyf Llanwnda ar y lôn o Ddinas neu Menai View i gyfeiriad Rhostryfan. Bu dau gapel yma, gan yr Annibynnwyr a Chapel Bethel y Wesleaid ond mae'r ddau wedi cau bellach. Mae mynwent sifil y gymuned, Mynwent Cefn-faes, ychydig y tu allan i'r pentref.
Mae Atgofion am Rhos-isaf gan Owen Ll. Williams, sydd yn cyfeirio at yr ardal tua 1895, yn ffynhonell heb ei ail o wybodaeth am y pentref a'r ardal oddi amgylch. Gweler yr erthygl ar wahân trwy glicio yma i ddarllen testun yr ysgrif.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma