Cymdeithas Caredigion Rhostryfan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:11, 3 Mehefin 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ni wyddys fawr am Gymdeithas Caredigion Rhostryfan ar wahân i'r ffaith mai cymdeithas gyfeillgar o ryw fath oedd yn Rhostryfan a sefydlwyd i helpu'r anghenus. Ysgrifennydd olaf y gymdeithas oedd Ellis Jones, Glan'rafon, Rhostryfan, garddwr ac wedyn chwarelwr, ac ysgrifennydd Capel Horeb (MC), Rhostryfan, dyn a nodweddid gan ei ysgrifen gain a'i drefnusrwydd.

Daeth y gymdeithas hon i ben ym 1842, ond y flwyddyn ganlynol, sefydlwyd Cymdeithas Gynorthwyol Uwchgwyrfai yn Rhostryfan yn ei lle ym 1843. Ar farwolaeth Ellis Jones ym 1857 fe'i olynwyd gan William Hughes, Y Siop, (1814-1877) blaenor yn Horeb ar ôl 1860. [1] Erbyn 1895, John Roberts, Fronhyfryd, Rhostryfan oedd yr ysgrifennydd, a chynhelid cinio blynyddol yng Nghaernarfon ar ddydd Llun y Sulgwyn.[2] Yn ôl atgofion Owen Ll. Williams (Wells, Vermont), fe'i elwid hefyd weithiau'n "Glwb Capel Wesla": dyma beth sydd ganddo i'w ddweud:

Yr oedd y pryd hwn glwb cleifion neu Glwb Capel Wesla, ond ei enw swyddogol oedd Cymdeithas Gynorthwyol Uwchgwyrfai, cymdeithas er cynorthwyo yr aelodau pan mewn gwaeledd neu wedi cyfarfod â damwain. Telid swm yn fisol gan yr aelodau i drysorfa arbennig o ba un pan mewn gwaeledd neu ddamwain nas gallai i rywun ddilyn ei alwedigaeth ceid swm wythnosol o'r drysorfa, yr hyn a ddosberthid yn fisol gan bwyllgor wedi ei benodl i'r pwrpas. Ar ddydd Llun y Sulgwyn byddai yr holl aelodau yn cyfarfod yng nghapel Bethel, Rhos Isaf ac yn trafod materion a fyddai o fudd i'r gymdeithas eu trafod a derbyn adroddiad y gwahanol swyddogion am y flwyddyn, gorymdeithid i rywle i gael cinio gyda seindorf o Ben-y-groes neu Dal-y-sarn ar y blaen. I Gaernarfon y bum i yn mynd gyda hwy a chael cinio yno mewn rhyw ystafell oedd ddigon mawr i eistedd dau neu dri chant ar unwaith.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), tt.226-7, 231
  2. Y Genedl Gymreig, 26 Mawrth 1895, t.4
  3. Owen Ll. Williams, Atgofion am Rhos Isaf, llawysgrif mewn dwylo preifat; atgynhyrchir yr ysgrif yng Ngof y Cwmwd.