Stent Uwchgwyrfai 1352

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:26, 27 Mai 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Stent Uwchgwyrfai sy'n dyddio o 1352 yn rhan o stet am holl diroedd siroedd Caernarfon a Môn. Dogfen ydyw sy'n cofnodi holl dollau, trethi a dyletswyddau yr oedd yn ofynnol i ddeiliaid y tir gyflwyno i'r arglwydd, sef (erbyn 1352), goron Lloegr neu (a bwrw bod tywysog Cymru'n bod) i'r dywysog Seisnig hwnnw fel rhan o diroedd Tywysogaeth Gogledd Cymru. Mewn gwirionedd, math o "Lyfr Domesday" yw'r stent, ac mae'n ffynhonell hynod o bwysig (ond nad y bwysicaf un) ar gyfer deall cymdeithas Uwchgywrfai yn ystod y 14g.

Y dull o gasglu gwybodaeth oedd trwy gynnal sesiynau o flaen John de Delves, dirprwy Iarll Arundel, lle holwyd holl denantiaid caeth a rhydd