Elernion (tŷ a fferm)
Tŷ sy’n dyddio o’r unfed ganrif ar bymtheg yw Elernion, yn ardal Trefor.
Credir i’r adeilad a welir heddiw fod yn estyniad o hen adeilad oedd yno ynghynt, a chafodd ei adeiladu gan Humphrey Evans tua 1590. Dros amser, daeth y lle i ddwylo’r Glyniaid o Lynllifon trwy briodas merch Richard Evans gyda William Glynne yn yr ail ganrif ar bymtheg. Roedd y tŷ hefyd yn rhan o ystâd y Glyniaid o Blas Newydd, ac yna yn perthyn i’r Wyniaid o’r Wern, Penmorfa.
Mae’r adeilad hynafol hwn yn dyddio'n ôl cyn belled â’r unfed ganrif ar bymtheg o leiaf.
Roedd Elernion hefyd yn enw ar un o drefgorddi (neu raniadau) plwyf Llanaelhaearn. Mae sawl enghraifft yng Ngwynedd o enw hen drefgordd neu dreflan barhau hyd heddiw mewn enw fferm sylweddol. Hefyd, yn achos Elernion, bu'n arfer tan yn weddol ddiweddar ymysg rhai i gyfeirio at ardal Trefor fel 'Elernion'.Ond enw arall am yr ardal, fwy cyffredin, yw 'Hendra'.