Y Blagur

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:53, 19 Mai 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cylchgrawn disgyblion Ysgol Gynradd Trefor oedd Y Blagur , ac fe gyhoeddwyd y rhifyn cyntaf Nadolig 1923. Ei bris oedd tair ceiniog. Fe'i hargraffwyd ym Mhwllheli gan D. Caradog Evans, Argraffydd, 67 Stryd Fawr. Prifathro'r ysgol ar y pryd oedd R.Lloyd Jones, yr awdur nofelau antur i blant. Y bwriad oedd cyhoeddi tri rhifyn y flwyddyn - un i bob tymor ysgol.

Ceir 16 tudalen yn y rhifyn cyntaf ac mae'n cynnwys clawr gwyrdd a nifer dda o hysbysebion gan fasnachwyr lleol e.e. C.R.Cadwaladr, Groser, Penmaen House, Trefor.

Dyma gynnwys y rhifyn cyntaf :

NODION (gan y Prifathro mwy na thebyg)

PENNOD FER O HANES (eto gan y Prifathro neu un o'r athrawon)

EIN BABI NI : Dienw

DARLUN HEB EIRIAU : Gwobr am lunio stori am y llun o athro boliog yn sefyll gerbron dosbarth mewn ysgol

DADL SANTA CLÔS : Dienw

MY HOLIDAYS : Esme Coleman

WILLIE A'R CAWR : Lizzie Hughes

HEL LLUS : Gwilym Jones

TREFOR YN 1960 : Menai Parry

YSTORI : E.H.

Y TRIP I RHYL : E.H.

Y BACHGEN AMDDIFAD : Robert Japheth

Y DDAU FACHGEN GYDA'R CWCH : W.H.Jones

Y TYLWYTH TEG : Annie Williams

DARN HEB ATALNODAU : Dienw

SANTA CLÔS a TRO I'R WLAD : Dwy gerdd gan Nin (Evans, Hyfrydle)

FOOTBALL NEWS AND NOTES : T.J.Jones

THE MATCH AT FOURCROSSES : Robert T. Roberts

TASGAU I'R PLANT : Pump o dasgau gwahanol - Enwau Cuddiedig / Gair Sgwâr / Acrostic Dwbl / Tasg Diamwnt / Enw Cuddiedig

SANTA CLÔS : Stori a lluniau (Dienw)


Gwaetha'r modd, y rhifyn cyntaf hwn oedd yr unig rifyn a gyhoeddwyd, a hyd y gwyddys, un copi yn unig sydd ar gael ohono.