Tyddynnod a Ffermydd Trefor
R.Lloyd Jones, Prifathro Ysgol Trefor o 1913 hyd 1928, oedd cyfansoddwr dau bennill sy'n dal ar wefusau lawer yn Nhrefor hyd heddiw, dau bennill sy'n rhestru nifer o ffermydd a thyddynnod y rhan hon (Hendref) o blwyf Llanaelhaearn. Dros y cenedlaethau bu plant yr ysgol yn eu canu'n frwd.
Gwydir Bach a Gwydir Mawr, Llwynaethnen a Chefn Berdda, Gapas Lwyd, Nant Bach a Chwm, Tir Du, Llwy-pric, Cae Cropa, Sgubor Wen a Than-y-bwlch, Pen-lôn, Cae'r Foty, Morfa.
Lleiniau Hirion, Parsal, Graig, Uwchfoty, Tanycreigia, Tyddyn Coch a Nant y Cwm Dau Derfyn a Brynhudfa, Lernion, Maes'neuadd a Thy'n Gors, Tai Nwddion, Bwlcyn, 'Rhendra.