Tyddynnod a Ffermydd Trefor
R.Lloyd Jones, Prifathro Ysgol Trefor o 1913 hyd 1928, oedd cyfansoddwr dau bennill sy'n dal ar wefusau lawer yn Nhrefor hyd heddiw, dau bennill sy'n rhestru nifer o ffermydd a thyddynnod y rhan hon (Hendref) o blwyf Llanaelhaearn. Dros y cenedlaethau bu plant yr ysgol yn eu canu'n frwd.
Gwydir Bach a Gwydir Mawr,
Llwynaethnen a Chefn Berdda,
Gapas Lwyd, Nant Bach a Chwm,
Tir Du, Llwy-pric, Cae Cropa,
Sgubor Wen a Than-y-bwlch,
Pen-lôn, Cae'r Foty, Morfa.
Lleiniau Hirion, Parsal, Graig,
Uwchfoty, Tanycreigia,
Tyddyn Coch a Nany y Cwm
Dau Derfyn a Brynhudfa,
Lernion, Maes'neuadd a Thy'n Gors,
Tai Nwddion, Bwlcyn, 'Rhendra.