Cwm Du
Mae Cwm Du yw'r cwm uchel ar lethrau gogleddol Mynydd Mawr, gyda nant yn ei waelod, sy'n rhedeg i lawr i Glogwyn Gellog nes ymuno ag Afon Gwyrfai. Y tu ôl i Gwm Du mae Craig Cwm Du, craig serth. Ar ben gorllewinol y mae 5 adit neu gloddfa fach sy'n tystio i'r man fod yn fwynglawdd (haearn mae'n debyg) rywbryd yn ystod y 300 mlynedd diwethaf; dichon na chafwyd hyd i fwynfa ar raddfa fasnachol ac fe roddwyd heibio i weithio'r lle yn fuan.[1]
Ymysg y dringwyr cyntaf i ddringo ar y graig uwvhben y cwm oedd George Mallory (a gollwyd ar Everest). Ym 1912 fe ddarganfyddodd dri ffodd i fyny'r graig, sef Pis Aller Rib, Yellow Buttress ac Adam Rib.[2] Dichon iddo fo a'i debyg, er gwaethaf eu gorchestion mynydda, y mae diolch am enwau Saesneg megis Saxifrage Gully sydd ynymddangos hyd yn oed ar fapiau Ordnans y dyddiau hyn o'r cwm.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma