William Caldwell Roscoe
William Caldwell Roscoe oedd un o dri chyfarwyddwr y Cwmni Ithfaen Cymreig (Welsh Granite Company), perchnogion Chwarel yr Eifl, Trefor. Y ddau arall oedd ei briod, Emily Sophia Caldwell, a gŵr i chwaer Emily, John Hutton.
Ganwyd William Roscoe ar 20 Medi 1823, a bu farw ar 30 Gorffennaf 1859 yn 35 mlwydd oed. Ceir cofeb iddo yng nghapel Renshaw Street, Lerpwl. Roedd yn ŵr ifanc talentog a dysgedig iawn ac swedi graddio ym Mhrifysgol Llundain ym 1843. Ym 1845 priododd â Sophia Emily Malin, merch William Malin, masnachwr llwyddiannus o Marley, swydd Derby. Roedd Sophia yn chwaer i wraig John Hutton. Cafodd William ac Emily ddwy ferch, Elizabeth Mary ym 1856, a Margaret ym 1858, ac un mab, William Malin ym 1859, y flwyddyn y bu farw William Roscoe o'r teiffoid yn Surrey, de Lloegr. Trosglwyddwyd ei ddiddordeb a'i gyfrifoldeb yn y Cwmni Ithfaen Cymreig i'w weddw, Emily Sophia Roscoe.
Mae'n werth cyfeirio at daid William Caldwell Roscoe, sef yr enwog William Roscoe a fu farw ym 1831 yn 88 mlwydd oed. Roedd yn ieithmon hyfedr iawn, gyda meistrolaeth lwyr ar Saesneg, Lladin, Groeg, Ffrangeg ac Eidaleg.