John Hutton

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:33, 24 Ebrill 2020 gan Geraint (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

John Hutton oedd Prif Oruchwyliwr a pherchennog Chwarel yr Eifl, Trefor, o 1865. Penderfynodd Samuel Holland werthu Chwarel y Gwylwyr yn Nefyn (a agorwyd ym 1844) tua 1846-47, mac fe'i prynwyd gan ŵr busnes o'r enw John Hutton. Yn stiward yn y Gwylwyr roedd Trefor Jones, ac ym 1850 daeth Hutton a Jones dros yr Eifl a chanfod fod y garreg a gloddid yn yr Hen Ffolt yn rhagori ar garreg y Gwylwyr a charreg Penmaenmawr. Prynodd Hutton y mân gwmnïau a weithiai yn yr Hen Ffolt, a'u llyncu i'w gwmni ei hun, y Cwmni Ithfaen Cymreig (Welsh Granite Company) oedd gynt yn cynnwys Chwarel y Gwylwyr, Nefyn, a Chwarel Tŷ Mawr, Pistyll.