Cyfrinfa Freiniol Reifl

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 00:07, 23 Ebrill 2020 gan Geraint (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cymdeithas wirfoddol oedd Cyfrinfa Freiniol Reifl a sefydlwyd yn rhyw fath o glwb yswiriant iechyd gan chwarelwyr Chwarel yr Eifl Trefor. Yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg a chwrter cynta'r ugeinfed ganrif bu bri mawr ar gymdeithasau o'r fath, yn arbennig yn yr ardaloedd diwydiannol. Fe'u gelwid ar lafar, fel rheol, yn Glybiau Cleifion, a byddent yn cynorthwyo, yn ariannpol yn bennaf, y gweithiwr a'i deulun oedd mewn angen oherwydd salwch neu ddamwain. Byddai pob un o'r chwarelwyr yn talu sub wythnosol o'u cyflog i gynnal y gronfa ganolog.

Arferai'r Cymdeithasau Cyfeillgar hyn gyfarfod yn ôl yr angen, ond roedd i bob un ohonynt ei diwrnod blynyddol, dydd gŵyl bron yn ddieithriad - Y Nadolig, Dydd Llun y Pasg, Dydd Llun y Sulgwyn neu Ddifiau Dyrchafael. Dyna pryd y byddai'n cynnal ei Chyfarfod Blynyddol, ei Chinio Blynyddol a'i Gorymdaith Flynyddol, ei haelodau'n llogi band pres ar gyfer yr achlysur ac yn martsio'n dalog yn eu sashes a'u hetiau caled.

Bu nifer o gymdeithasau fel hyn yn Nhrefor ar wahanol gyfnodau. Roedd cangen gref o'r Odyddion (Oddfellows) yma yn y 1870au a'r 1880au. Yn Ebrill 1880 bu Etholiad Seneddol ffyrnig iawn rhwng y Tori, Douglas Pennant, a'r Rhyddfrydwr, Watkin Williams