Ysgol Rhostryfan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:48, 22 Ebrill 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ysgol addysg gynradd ym mhentref Rhostryfan yw Ysgol Gynradd Rhostryfan. Nid hon oedd yr ysgol gyntaf ar gyfer plant yn y pentref gan fod Capel Horeb (MC), Rhostryfan, mae'n ymddangos, wedi ceisio gwneud rhywfaint o ddarpariaeth ar gyfer y gymdogaeth cyn hynny. Cynhelid ysgol yn llofft tŷ capel Horeb i ddcehrau, wedyn yn y capel ei hun ac wedyn mewn adeilad a godwyd at y pwrpas rhwng 1840 ac 1870.

Agorwyd ysgol Frytanaidd ddiwedd 1870 mewn adeilad pwrpasol newydd, ac mae hi ar agor hyd heddiw. Gelwid yr ysgol yn Rhostryfan British School (h.y. ysgol na noddwyd gan yr Eglwys ond gan gorff annibynnol) cyn cael ei droi'n Rhostryfan Board School yn y 19g.[1] Am flynyddoedd lawer ar ddcehrau'r 20g, y prifathro oedd yr hanesydd lleol W. Gilbert Williams, dyn a hanodd o'r pentref. Tua 1980, ymestynnwyd yr adeilad trwy godi neuadd newydd at ddefnydd yr ysgol a'r gymuned fel ei gilydd gan nad oes neuadd bentref yn Rhostryfan.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Llyfrau Log Ysgol Gynradd Rhostryfan (Gwasanaeth Archifau Gwynedd) XES1/118 [1867-1934]