Trefor Row

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:53, 20 Ebrill 2020 gan Geraint (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Pan osodwyd carreg sylfaen pentref newydd Trefor gan Trefor Jones, Prif Stiward y chwarel, ar 12 Ebrill 1856, enwyd y lle yn "Bentref Trefor". Chwe thŷ a godwyd bryd hynny, ond fe alwyd y pentterf yn 'Trefor' a'r tai yn 'Trefor Row'. Fe'u hadeiladwyd gan adeiladydd o'r fro, William Roberts, Lleiniau Hirion. Dymchwelwyd dau o'r tai ganol y 1960au er mwyn cael lle i ehangu'r Stôr (siopau Cymdeithas Gydweithredol Chwarelwyr yr Eifl). Erys y pedwar arall fel rhifau 52, 54, 56 a 58 Ffordd yr Eifl ac maent wedi eu lleoli ger Pen Hendra, y groes sydd yng nghanol pentref Trefor.

Yr unig dystiolaeth sydd gennym o bwy oedd tenantiaid cynta'r tai yw honno a geir yng Nghyfrifiad 1861. Rhestrir saith, nid chwech, o dai, oherwydd daeth ffermdy bychan Tŷ Newydd yr Hendref yn rhan o'r stryd hefyd. Cwmni'r Gwaith oedd piau'r fferm ac ar dir Tŷ Newydd yr adeiladwyd y tai.

Dyma'r tenantiaid ym 1861 :