Capel Horeb (MC), Rhostryfan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:33, 20 Ebrill 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae achos y Methodistiaid Calfinaidd ynHoreb, Rhostryfan yn hŷn o dipyn na'r capel ei hun (a chwalwyd tua 20 mlynedd yn ôl, er i'r festri barhau fel cartref i'r eglwys. Saif ar sgwâr neu groesffordd yng nghanol pentref Rhostryfan.

Sonnir am bregethu yn yr ardal cryn dipyn cyn ddiwedd yr 18g yn yr awyr agored, a phregethid oddi ar ben carreg yn ymyl y lôn isaf i dreflan Rhos-isaf, yn ôl Robert Jones, Rhoslan. Dywedir fod bynnag fod tua 20 o drigolion y Rhos yn aelodau ym Bryn'rodynerbyn tua diwedd y 18g, gan gynnwys William Griffith ac Elinor Morris, cwpl priod oedd yn byw yng Nghefn-pederau. Tua 1804, cychwynnwyd "ysgol Sul" mewn bwthyn o'r enw "Y Muriau" ar dir Wernlas-wen, cyn symud i Dŷ'n Weirgloidd, o'r fan honno i Cae'r Odyn ac wedyn i Benlan uchaf. Ym 1816, cafwyd cyfle i rentu Tŷ Uchaf at ddibenion cynnal ysgol Sul, ac eithiau seiat. Fe gynhelid y rhain yr un adeg âmoddion ym Mryn'rodyn.