Ystrwyth ab Ednywain
Roedd Ystrwyth ab Ednowain - yn ôl achresi cynnar - yn ddisgynnydd uniongyrchol i Cilmin Droed-ddu ac yn benteulu Teulu Glynllifon yn yr 13g. ar adeg y Tywysog Llywelyn Fawr. Dyma'r adeg pan ffurfiolwyd tiroedd teuluoedd unigol dan y tywysogion, gan ffurfio "gwelyau", sef tiroedd etifeddol; mae sôn yn y "Record of Carnarvon" am Wely Wyrion Ystrwyth yn yr ardal a ddaeth yn blwyf Llandwrog.[1]
Er bod peth amheuaeth gan haneswyr, mae'n bur debygol mai Ystrwyth ab Ednowain oedd y "Magister Ystrwyth" oedd yn gynghorydd a diplomat i Lywelyn Fawr.[2] Os felly, gellir ei ddyddio i gyfnod rhwng tua 1180 a 1222 o leiaf; clywir amdano'n negesydd i Lywelyn ym 1204, derbyniodd bensiwn gan y Brenin Ioan o Loegr ym 1204, roedd yn un o offeiriaid Ellesmere ac yn derbyn bywoliaeth Salkeld ym esgobaeth Caerliwelydd ym 1209. Roedd gyda Llywelyn pan oedd hwnnw'n ymladd wrth ochr y Brenin John ym mrwydr Norham yn erbyn yr Albanwyr ym 1209. Ym 1215, pan oedd un o wystlon Llywelyn yn cael ei ryddhau, Ystrwyth aeth i'w nôl ar ran y Tywysog. Ym 1221 derbyniodd bensiwn o ddeg marc gan Frenin Lloegr. Ym 1222, roedd Ystrwyth yn un o dystion i setliad priodasol nai'r Iarll Ranulf o Gaer, Ioan y Sgotyn a Helen, merch Llywelyn.[3]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ W. Gilbert Williams, ‘’Glyniaid Glynllifon’’ ((Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.10 (1949)), t.33
- ↑ Glyn Roberts, The Glynnes and the Wynns of Glynllifon, (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.9 (1948)), t.25-6
- ↑ J.E. Lloyd, A History of Wales, (Llundain, 1911), tt.622, 642, 656, 657, 685