Syr Thomas Wynn, Barwnig 1af
Penteulu teulu Wynniaid Boduan ym Mhen Llŷn oedd Thomas Wynn (1678-1749), a wnaed yn farwnig ym 1742. Mab ydoedd i Griffith Wynn, sgweier Boduan a Catharine ei wraig, merch William Vaughan, Corsygedol, Dyffryn Ardudwy. Priododd Frances, merch John Glynn ac aeres Ystad Glynllifon tua 1700. Trwy uno'r ddau deulu daeth y teulu unedig i reng flaen sgweiriaid y sir o ran eiddo, pwer a dylanwad gwleidyddol. Roedd ganddo frawd, William (1678-1754), a ddaeth yn Syr William, trwy ddylanwad ei frawd - efallai oherwydd iddo fod yn fanergludydd i fintai o bensiynwyr bonheddig ac yn gwasanaethu mab y Brenin.. Ar farwolaeth John Glynn, etifeddodd ystad Glynllifon trwy ei wraig, gan uno ystadau Boduan a Glynllifon fel y dywedwyd eisoes (er i'r ddwy ystad gael eu rhedeg r wahân i raddau helaeth am y ddwy ganrif nesaf). Yn y man, symudodd y teulu i fyw i Glynllifon gan osod plasty Boduan neu ei ddefnyddio ar gyfer aelodau iau y teulu.[1] Yn y dyddiau cynnar, roedd yn gartref i William Wynn ei frawd iau.[2]
Roedd gan Thomas Wynn a Frances bump o blant, sef un mab, Syr John Wynn, yr 2il Farwnig, Catharine, Elizabeth, (1705-?), Dorothy (1707-44), gwraig cyntaf William Thomas,Coed Helen, a Frances (1713-84) a farwodd yn ddi-briod.[3]
Roedd yn ddyn o ddylanwad, gan eistedd fel aelod seneddol dros brwdeisdrefi'r sir o 1713 hyd ei farwolaeth ym 1749. Cyn hynny, bu'n Uchef Siryf Sir Gaernarfon ym 1712. Dywedir iddo creu llawer o fwrdeisiaid (dynion â hawliau mewn tref) ym mwrdeisdrefi'r sir lle roedd yn gallu dylanwadu ar y gorforaeth fwrdeistrefol oherwydd iddo fod yn berchen ar eiddo sylweddol yno gyda bwrdeiswyr newydd nad oeddynt yn byw yn y dref ond oedd yn fownd o roi eu pleidlais iddo yn yr etholiad. Rhwng 1707 a 1713, ychwanegodd 689 o fwrdeisiaid newydd i'r 24 a oedd cynt yn Nefyn; ac ym Mhwllheli, cynyddodd y rhif o 36 o 210.[4] Bu'n aelod o lys y tywysog George, mab y Brenin, fel un o wastrodion (equerries) y tywysog, a pharhaodd yn y rôl wedi i hwnnw'n fynd yn frenin ym 1727 (ond am dair blynedd, 1724-7, pan weithredodd fel Cwnstabl Castell Caernarfon a Chlerc Llys y Tywysog).[5] Derbyniodd y swm sylweddol o £300 y flwyddyn fel gwastrodwr ac fe daliodd hefyd swydd Clerc y Lliain Gwyrdd a ddaeth a £1000 y flwyddyn iddo. Roedd felly yn ddyn cefnog o ran tir ac incwm. Roedd yn cefnogi plaid y Whigiaid ac yn pleidio achos y brenin yn ddiysgog, ac am hynny fe dderbyniodd y teitl o Farwnig.[6]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ J E Griffith, Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt. 171-3
- ↑ ‘’History of Parliament’’ [1]
- ↑ J E Griffith, Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t. 173
- ↑ P.G.T. Thomas, The Parliamentary Representation of Caernarvonshire in hte Eighteenth Century, (Trafodion Cym Hanes Sir Gaernarfon, Cyf. 19 (1958)), t. 44
- ↑ ‘’History of Parliament’’ [2]
- ↑ Glyn Roberts, The Glynnes and the Wynns of Glynllifon, (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.9 (1948)), t.30