John Robinson, goruchwyliwr chwarel a blaenor
Ganed John Robinson (1805-1867) yng Nglan'rafon, Carmel, yn fab hynaf y teulu. Fe'i adnabyddid fel bachgen gwyllt ac ymladdgar nes benderfynu callio, ac erbyn 1828, ac yntau'n 24 oed, roedd yn athro yn yr ysgol Sul yng Ngharmel, ac y mhen pedair blynedd fe'i godwyd yn flaenor. Daeth i adnabod John Jones, Tal-y-sarn yn dda, a dichon trwy hynny fe'i ddyrchafwyd yn oruchwyliwr Chwarel Dorothea. Bu'n aelod a blaenor yng [[Nghapel Tal-y-sarn (MC)|nghapel y Methodistiaid yn Nhal-y-sarn yn nes ymlaen yn ei oes.[1]
Ni ddylid ei gymysgu a John Roninson Plas Tal-y-sarn a oedd yn Sia ac yn eglwyswr.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), tt.201-2