Lleuar Bach
Fferm am y terfyn â Choch-y-big a Lleuaf Fawr, Bynaerau, yw Lleuar Bach. Yn y ddeunawfed ganrif daeth David Roberts o blwyf Llanllyfni yn amaethwr yma gyda’i wraig gefnog, Catherine Pughe, aeres Erw Faethlon, Tywyn. Bedyddiwyd eu hunig fab yn John Pughe Roberts, ond erbyn iddo ddilyn ei dad fel ffermwr Lleuar Bach yr oedd yr enw Pughe wedi disodli’r cyfenw Roberts. Y John Pughe hwn oedd tad Ioan ab Hu Feddyg (John Pughe) (1815-1874), Dafydd ab Hu Feddyg, (David William Pughe)(1821-1862) ac Eliza a fu farw yn un ar hugain oed.