Alfred Henderson

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:23, 28 Mawrth 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Gŵr o Nantlle oedd Alfred Henderson (1894 - ) ac ymddengys iddo gymryd yn ifanc at chwarae'r corn, gan ddod yn aelod o Gyrn Arian Deulyn cyn iddo symud o'r ardal i weithio fel clerc ym Mhrescot ger Lerpwl ym 1914 - yn bur debyg fel gwaith rhyfel - ac fe ymunodd â band yno.[1]

Cafodd ei eni yn Sir Gaernarfon i Maggie, (Henderson, o'i phriodas gyntaf) a ailbriododd ym 1901 â Richard Williams, gŵr o Gastell-nedd, Sir Forgannwg, yn 10 Rhes Nantlle. Roedd Maggie, ei fam yn wreiddiol o Feddgelert. Diddorol yw nodi o Gyfrifiad 1911 fod pawb yn y tŷ yn uniaith Gymraeg.[2]

Dichon ei fod hefyd yn medru canu'n foddhaol gan fod y cofnod canlynol i'w weld yn yr Herald Cymraeg:

ORIG GYDA CHEIRIOG.—Treuliwyd Cymdeithas Baladeulyn, nos Iau, i fwynhau Ceiriog a'i weithiau. Cafwyd papur arno gan Mr. G.W. Francis, a darllenodd lawer o'i weithiau, a chanodd gân o'i eiddo. Hefyd cafwyd caneuon ac adroddiad o weithiau y bardd gan Miss Maggie Powell, Mri Alfred Henderson a Llew Deulyn, ynghyd â chanu dau emyn o'i eiddo dan arweiniad Mr. W. T. Williams.[3]

Yn nes ymlaen dychwelodd i ardal Dyffryn Nantlle, ac ym 1947 fe arweiniodd band a oedd yn gyfuniad o fandiau Moeltryfan a Seindorf Dyffryn Nantlle pan gystadlodd yn aflwyddiannus yn Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn.[4]

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Cymru, 22 Rhagfyr 1914, t.5
  2. Cyfrifiadau 1901 a 1911, Llandwrog.
  3. Herald Cymraeg, 10 Mawrth 1914, t.,5
  4. Erthygl Cof y Cwmwd ar fandiau Uwchgwyrfai.