Alfred Henderson
Gŵr o Nantlle oedd Alfred Henderson ac ymddengys iddo gymryd yn ifanc at chwarae'r corn, gan ddod yn aelod o Gyrn Arian Deulyn cyn iddo symud o'r ardal i weithio fel clerc ym Mhrescot ger Lerpwl ym 1914 - yn bur debyg fel gwaith rhyfel - ac fe ymunodd â band yno.[1]
Dichon ei fod hefyd yn medru canu'n foddhaol gan fod y cofnod canlynol i'w weld yn yr Herald Cymraeg:
ORIG GYDA CHEIRIOG.—Treuliwyd Cymdeithas Baladeulyn, nos Iau, i fwynhau Ceiriog a'i weithiau. Cafwyd papur arno gan Mr. G.W. Francis, a darllenodd lawer o'i weith iau, a chanodd gân o'i eiddo. Hefyd cafwyd caneuon ac adroddiad o weithiau y bardd gan Miss Maggie Powell, Mri Alfred Henderson a Llew Deulyn, ynghyd â chanu dau emyn o'i eiddo dan arweiniad Mr. W. T. Williams.[2]
Yn nes ymlaen dychwelodd i ardal Dyffryn Nantlle, ac ym 1947 fe arweiniodd band a oedd yn gyfuniad o fandiau Moeltryfan a Seindorf Dyffryn Nantlle pan gystadlodd yn aflwyddiannus yn Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn.[3]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Cymru, 22 Rhagfyr 1914, t.5
- ↑ Herald Cymraeg, 10 Mawrth 1914, t.,5
- ↑ Erthygl Cof y Cwmwd ar fandiau Uwchgwyrfai.