Yr Hen Offis

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 22:23, 18 Mawrth 2020 gan Geraint (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Yr Hen Offis oedd swyddfa gyntaf y Cwmni Ithfaen Cymreig (Welsh Granite Company) oedd yn cloddio yn chwarel gynta'r Eifl ar fôn Craig y Farchas. Lleolid y chwarel hon o ddwy bonc ym mhen draw y Gorllwyn (a gyfenwid ar lafar yn West End) wrth droed Mynydd Garnfor, yr agosaf i'r môr o dri mynydd yr Eifl ger Trefor. Fel Tai Bach West End yr adnabyddir y tai yn lleol.

Erbyn y flwyddyn 1854 roedd cerrig rhyddion yr Hen Ffolt ym Mhant y Farchas wedi eu dihysbyddu, Dyma pryd yr agorwyd y chwarel go-iawn gyntaf yn Nhrefor, a hynny ar y graig uwchben yr hen gloddfa, ac uwchben rhan o Allt Eithin Nant Bach. Dwy bonc oedd i'r chwarel hon ac fe'i hagorwyd gan Trefor Jones. Ar y cychwyn llwythid y cerrig i longau ar lan-môr y Gorllwyn - gwaith peryglus dros ben ac yn dibynnu'n llwyr ar gael tywydd teg. Ganol blynyddoedd y 1850au adeiladodd y Cwmni ei gei cyntaf yr ochr arall (ddwyreiniol) i Drwyn y Tâl (Y Clogwyn) a bu'n rhaid gosod cledrau yr holl ffordd o Graig y Farchas i'r Cei.

Llusgid y wagenni fesul dwy, yn llawn cerrig sets, gan geffyl. Adeiladwyd swyddfa gerrig bwrpasol ar fin y tramwe, ynghyd â thŷ i Drefor Jones, a stablau i'r ceffylau. Roedd hyn yn y flwyddyn 185