Croesfan Graeanog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 22:06, 19 Tachwedd 2017 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Croesfan Graeanog yn un o ddim ond tair croesfan (neu 'level crossing') a weithid gan staff y rheilffordd ar wahân i rai gerllaw gorsafoedd ar y lein o Gaernarfon i Afon Wen ac o fewn ffiniau Uwchgwyrfai. Roedd y groesfan ar y lôn gefn sy'n arwain o'r lôn bost i gyfeiriad Cefn Graeanog. Y mae'r tŷ a godwyd ar gyfer ceidwad y groesfan yn dal i sefyll gerllaw'r groesfan o fath gwahanol lle mae Lôn Eifion yn croesi'r lôn gefn brysur a ddefnyddir gan lorïau sy'n cario graean o Chwarel Cefn Graeanog.