Mynwent Macpela
Mynwent Macpela yw mynwent gyhoeddus Pen-y-groes, ac fe'i chynhelir gan Gyngor Cymuned Llanllyfni. Saif ar ochr ogleddol i'r ffordd sydd yn codi o Ben-y-groes i gyfeiriad Carmel.
Nid yw'r rheswm dros alw'r fynwent yn Facpela'n amlwg erbyn hyn, gan nad oes capel o'r enw hwnnw yn y cylch. Fodd bynnag, prynwyd ogof o ernw Machpelah gan Abraham yn ôl llyfr Genesis, er mwyn sicrhau claddfa ar gyfer ei wraig Sarah.
Ymysg y rhai mwyaf nodedig i gael eu claddu yno yw Gwenlyn Parry, a gladdwyd yno ym 1991. Dyn o Ddeiniolen ydoedd, a ddysgodd ym Methesda cyn symud i Gaerdydd. Yno, priododd ei ail wraig, Ann Beynon, merch y Cynghorydd Talfryn Jones, Pen-y-groes.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma