Croesfan Glan-rhyd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 22:03, 19 Tachwedd 2017 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Croesfan Glan-rhyd yn un o ddim ond tair croesfan (neu level crossing) a weithid gan staff y rheilffordd ar wahân i rai gerllaw gorsafoedd ar y lein o Gaernarfon i Afon Wen ac o fewn ffiniau Uwchgwyrfai. Roedd y groesfan ar y lôn gefn sy'n arwain o'r lôn bost i gyfeiriad Rhedynog a Llandwrog. Y mae'r tŷ a godwyd ar gyfer ceidwad y groesfan yn dal i sefyll gerllaw'r groesfan o fath gwahanol lle mae Lôn Eifion yn croesi'r lôn gefn.