Llyfni Huws

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 00:20, 17 Mawrth 2020 gan Geraint (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ganwyd William Llyfni Huws ar yr ail o Fehefin 1889 ym Mhen-y-groes yn fab i William Hughes, a anwyd yn Llanllechid, a Jane, gwraig o ardal Llangwnnadl yng ngwlad Llŷn. Ganwyd y ddau riant ym mlwyddyn y Llyfrau Gleision, 1847. Mab arall i William a Jane oedd y bardd Llyfnwy. Roedd yr aelwyd yn 30 Stryd y Bedyddwyr ym Mhen-y-groes yn un ddiwylliedig iawn mae'n amlwg.

Priododd Llyfni Huws â merch o'r enw Matilda Jane Owen (1898-1987) o Lanwnnog yn Sir Drefaldwyn. Roedd yn ferch gerddorol iawn ac fe'i galwai ei hun yn Gerddores Eryri. Fe'i hurddwyd yn Eisteddfod Corwen ym 1919.

Dilynodd Llyfni ei dad i'r chwarel ac yno y bu'n gweithio hyd ddydd ei briodas. Yna daeth yn argraffydd ac yn siopwr bach, gan ei anfarwoli ei hun fel bardd a cherddor, yn ganwr penillion a thelynor hyfedr.

Bu farw at y 4ydd o Ebrill 1962 ac fe'i claddwyd ym mynwent Macpela, Pen-y-groes.