William Glynn, archddiacon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:48, 2 Mawrth 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd y Dr William Glynn (marw 1557) yn drydydd mab i Robert ap Meredydd, pennaeth Teulu Glynn (Glynllifon) a'i wraig Ellen Bulkeley o Fiwmares. Fe'i gymhwysodd yn Ddoethur yn y Gyfraith, ac yn cael gyrfa lewyrchus yn yr Eglwys. Yn y man fe'i ddyrchafwyd yn Archddiacon Meirionnydd ac wedyn Archddiacon Môn,(yn dilyn ei frawd hŷn, y Dr Morus Glynn yn Archddiacon Meirionnydd). Yn y rolau hyn, bu'n ddirprwy abl iawn i'r Esgob Thomas Skevington, Esgob Bangor, oedd hefyd yn abad Abaty Beaulieu yn Swydd Hants ac felly yn absennol am lawer o'r amser o'i esgobaeth. Mae Skevington yn enwog am sbarduno ailadeiladu'r eglwys gadeiriol ym Mangor, ac i William Glynn y syrthiodd y gyfrifoldeb o wireddu dymuniad yr esgob. Wedi i'r eglwys gadeiriol gael ei chwblhau, mae'n amlyg y trowyd sylw'r seiri maen at gwblhau adeiladu Eglwys Clynnog ar ei newydd wedd.[1] Roedd hefyd yn rheithor plwyf Clynnog Fawr a sawl man arall.[2].[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. A.H. Dodd, A History of Caernarvonshire, 1284-1900 (Caernarfon, 1968), t.42
  2. Y Bywgraffiadur Cymreig, (Llundain, 1953), t.262
  3. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt.172-3