Siôn Robert Lewis (John Roberts)
Siôn Robert Lewis (John Roberts)
Daeth Siôn Robert Lewis, 1731-1806 yn adnabyddus fel cyhoeddwr Almanac Caergybi. Bu wrth y gwaith hwn am bedair blynedd a deugain a pharhawyd i’w gyhoeddi gan ei fab,
Robert Roberts,(1777-1836) hyd 1837. [1] Roedd hefyd yn awdur, rhwymwr a gwerthwr llyfrau, emynydd a gwneuthurwr clociau [2]
Roedd yn enedigol o Lanaelhaearnyn fab i ffermwr, Robert Roberts, ac yn ystod ei ieuenctid arferai fugeilio defaid ei dad. Ond yng Nghaergybi y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes.
Cafodd dröedigaeth wrth wrando ar Hywel Harris yn pregethu yn y gymdogaeth, fe’i dilynodd i Drefeca, y gymuned Gristnogol a sefydlwyd gan Hywel Harris, a threulio tymor yno. [3]
Ymgartrefodd yng Nghaergybi tua 1760 pryd y cafodd drwydded gan Esgob Bangor i agor ysgol. Yn 1766 priododd Margaret Jones, Bodedern, Môn, a ganed iddynt chwech o blant.
Almanac Caergybi oedd ei waith pennaf ond ysgrifennodd nifer o lyfrau gwerthfawr hefyd, yn eu plith ceir Rhai Hymnau (1760), a ysgrifennwyd gyda chymorth Richard Jones; Yr Anedigaeth Newydd (1762), cyfieithiad o lyfryn Saesneg The New Birth; Drych y Cristion (1766), sef ailargraffiad Carwr y Cymru cyhoeddedig gan T. Gouge ac S. Hughes (1677); Hymnau a Chaniadau (1764); Rhyfyddeg neu Arithmetic (1768), y llyfr rhifyddeg cyntaf yn Gymraeg; Geirlyfr Ysgrythurol (1773), y geiriadur ysgrythurol Cymraeg cyntaf; Caniadau Preswylwyr y Llwch (1778); Yr Athrofa Rad (1788).
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma