Siôn Robert Lewis (John Roberts)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:43, 22 Chwefror 2020 gan Malan% (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Siôn Robert Lewis (John Roberts)

Daeth Siôn Robert Lewis, 1731-1806 yn adnabyddus fel cyhoeddwr Almanac Caergybi. Bu wrth y gwaith hwn am bedair blynedd a deugain a pharhawyd i’w gyhoeddi gan ei fab,
Robert Roberts,(1777-1836) hyd 1837. [1] Roedd hefyd yn awdur, rhwymwr a gwerthwr llyfrau, emynydd a gwneuthurwr clociau [2]

Roedd yn enedigol o Lanaelhaearnyn fab i ffermwr, Robert Roberts, ac yn ystod ei ieuenctid arferai fugeilio defaid ei dad. Ond yng Nghaergybi y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes.

Cafodd dröedigaeth wrth wrando ar Hywel Harris yn pregethu yn y gymdogaeth, fe’i dilynodd i Drefeca, y gymuned Gristnogol a sefydlwyd gan Hywel Harris, a threulio tymor yno. [3]

Ymgartrefodd yng Nghaergybi tua 1760 pryd y cafodd drwydded gan Esgob Bangor i agor ysgol. Yn 1766 priododd Margaret Jones, Bodedern, Môn, a ganed iddynt chwech o blant.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig: John Roberts. Awdur Thomas Isfryn Jones.
  2. ↑ ’’Nabod Môn’’ Gol. Dewi Jones, Glyndwr Thomas, tud.465. Gwasg Carreg Gwalch. (2003).
  3. ↑ ’’Hanes Emynwyr Cymru’’, W.A. Griffiths,(Hanes Emynwyr Cymru) tud. 81, Arg.W.Gwenlyn Evans, Swyddfa’r ’’Geninen’’ (1880?).