Siôn Robert Lewis (John Roberts)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:24, 22 Chwefror 2020 gan Malan% (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Daeth Sion Robert Lewis, 1751-1806 yn adnabyddus fel cyhoeddwr Almanac Caergybi. Bu wrth y gwaith hwn am bedair blynedd a deugain.

Roedd yn enedigol o Lanaelhaearn ond yng Nghaergybi y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes.

Cafodd Hywel Harries, ar un o'i deithiau pregethu i'r Gogledd, y fath ddylanwad ar Sion Robert Lewis fel yr aeth ar ei ô yr holl ffordd i Drefeca. Arhosodd yno am dymor a dychwelyd adref i gadw ysgol. Cyhoeddodd amryw lyfrau, yn eu plith dri llyfryn o emynau, ond ei brif waith oedd Almanac Caergybi".


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

{{O Hanes Emynwyr Cymru gan W.A. Griffiths, Sketty. (Caernarfon d/d) (1880?) Ond dylid nodi mai 1751-1806 yw ei dyddiadau yn y llyfr hwn.