Cae'r Foty Bach, Trefor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:05, 16 Chwefror 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Tyddyn bychan oedd Cae'r Foty Bach, Trefor, a safai ar sawdl Garnfor (Mynydd Gwaith), y mwyaf gorllewinol o fynyddoedd Yr Eifl, sydd "â'i ben yn y cymyl a'i draed yn yr heli".

Erbyn tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg aeth y tŷ a'r rhan fwyaf o'r tir o'r golwg gan yr isaf o domennydd anferth Chwarel yr Eifl.

Ni fu unrhyw olwg nac arwydd o'r lle byth ers hynny.